Mae manyleb TGAU CBAC (A*-G) Celf a Dylunio wedi’i hachredu gan Cymwysterau Cymru.Daeth y fanyleb ar gael i’w haddysgu mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru o fis Medi 2016
Bwriad y fanyleb yw darparu profiadau dysgu deniadol, heriol, cydlynol ac ystyrlon mewn ffordd hyblyg sy’n cefnogi datblygiad dilyniannol a chynyddrannol o arfer creadigol. Drwy gyfrwng rhaglen astudio sy’n wobrwyol ac yn ddeniadol, mae’r fanyleb hon yn ehangu profiad, yn datblygu’r dychymyg a sgiliau technegol, gan feithrin creadigrwydd a hybu datblygiad personol a chymdeithasol. Mae’r fanyleb hon yn canolbwyntio ar feithrin brwdfrydedd am faes Celf, Crefft a Dylunio ac, yn seiliedig ar raglen sylfaen ragarweiniol eang, ar ddatblygu sgiliau beirniadol, ymarferol a damcaniaethol sy’n galluogi myfyrwyr i gael dealltwriaeth gyfannol o amrywiaeth o arferion a chyd-destunau ym meysydd y celfyddydau gweledol, crefftau a dylunio.
Mae’r Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) ar gyfer TGAU o 2016 yn cynnwys papurau cwestiynau a chynlluniau marcio enghreifftiol.
Mae’r DAE yn nodi:
- cynllun marcio ar gyfer Cydran 1, y Portffolio;
- enghraifft o’r Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol, Cydran 2 a’r cynllun marcio sy’n gysylltiedig ag ef;
- cynnwys dangosol ar gyfer pob teitl sy’n berthnasol i’r gwaith a gyflwynir ar gyfer Cydran 1 a Chydran 2, enghreifftiau o ‘Fy Natganiad Creadigol’ a dogfennau Dilysu ar gyfer Cydrannau 1 a 2;
- enghreifftiau o restr wirio amcanion asesu ar gyfer myfyrwyr, sy’n berthnasol i’r gwaith a gyflwynir ar gyfer Cydran 1 a Chydran 2.
Mae Cydran 1, y Portffolio, yn cael ei phenderfynu gan y myfyriwr a’r athro, ei hasesu’n fewnol a’i safoni’n allanol. Mae Cydran 2, yr Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol, yn cael ei gosod gan CBAC, ei hasesu’n fewnol a’i safoni’n allanol.
Mae’r Canllawiau Addysgu yn cynnig canllawiau a chymorth cynhwysfawr, ymarferol, syml i athrawon sy’n awyddus i lunio cyrsiau sy’n cydymffurfio â manyleb newydd Eduqas 9–1 ar gyfer TGAU Celf a Dylunio i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2016 ac i’w hasesu am y tro cyntaf yn ystod Haf 2018. Maen nhw’n cynnwys datganiad eiriolaeth ar bwysigrwydd celf a dylunio, yn nodi’r newidiadau o fanylebau cynharach, cynnwys dangosol ar gyfer pob teitl, nodiadau ar luniadu ac ar anodi a mwy o ysgrifennu estynedig, a chasgliad sylweddol o atebion i gwestiynau cyffredin.