Mae gan Gelf a Dylunio rôl unigryw a hanfodol wrth lunio’r dyfodol, ac mae’n hynod bwysig i iechyd ein heconomi a lles ein cymdeithas. Gall Celf a Dylunio yn y cwricwlwm helpu i wella canlyniadau addysg, meithrin ymwybyddiaeth artistig a diwylliannol a pharatoi cenedlaethau newydd o bobl ifanc creadigol a llythrennog yn weledol am brofiadau dysgu gwerthfawr gydol eu hoes. Mae Celf a Dylunio hefyd yn agor drysau i yrfaoedd llwyddiannus. Mae’n cyflawni rôl hanfodol o hysbysu’r ymarfer ac mae’n tanio syniadau a diddordebau unigolion creadigol a fydd yn mynd ymlaen i fod yn artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr yn y dyfodol; bydd y rhain yn dylunio a gwneud y pethau yr ydym yn eu gwylio, eu gwisgo, eu defnyddio, eu bwyta ac yn byw ynddynt.
Bwriad Bocsgolau yn yr adran hon yw pwysleisio’r neges allweddol hon, gan roi dadl dros Gelf a Dylunio a helpu i hyrwyddo gwerth y pwnc i ymgeiswyr, cydweithwyr, y gymuned ysgol ehangach a thu hwnt. Rhoddir cyngor ymarferol ar lwybrau sy’n arwain at swyddi yn y diwydiannau celf a chreadigol a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer opsiynau TGAU a/neu Safon Uwch, a rhoddir cyngor ar yrfaoedd galwedigaethol a phroffesiynol. Fel athrawon, gallwn ddilysu a chymeradwyo ein pynciau gan godi proffil yr adran Celf a Dylunio yn yr ysgol a’r gymuned, gan ddangos i fyfyrwyr a’u rhieni yr ystod o yrfaoedd creadigol llwyddiannus a boddhaol sydd yn y byd gwaith. Gwelwyd cynnydd yn y diwydiannau creadigol yn y DU gyda’i incwm ond yn 1% yn llai na’r sector ariannol.
Yn yr adran hon byddwch yn cyfarfod â rhai o’r prif ymarferwyr celf yng Nghymru drwy gyfweliadau fideo byr anffurfiol a dadlennol sy’n helpu athrawon a dysgwyr i ddeall yr holl bosibiliadau proffesiynol amrywiol ym maes celf a dylunio, gan ddarparu hefyd gwybodaeth gyd-destunol ddefnyddiol ar gyfer gwaith ymchwil y myfyriwr.
Wrth i ffioedd prifysgolion gynyddu, mae’n hollbwysig bod myfyrwyr yn deall yr hyn y maent am ei gyflawni ym maes Addysg Uwch ac yn gallu dewis y cwrs cywir. Mae’r adran Cyngor ynghylch Symud Ymlaen i’r Coleg yn cynnwys gwybodaeth adeiladol gan ddarlithwyr ac arweinwyr cyrsiau am y cwestiynau cywir i’w gofyn cyn gwneud y penderfyniad pwysig hwn, ac mae’n rhoi cyngor ar gynnwys portffolios a pharatoi ar gyfer cyfweliad.
Mae’r pwyslais ar hyrwyddo Celf a Dylunio – sut i ddangos pwysigrwydd y pwnc i ymgeiswyr, cydweithwyr a’r gymuned ysgol ehangach.