Mae’n bwysig bod prosesau asesu mewnol a phrosesau safoni allanol yn ddull gwrthrychol, teg a dibynadwy o fesur cyflawniad ymgeiswyr a chanolfannau. I’r diben hwn, dylai ymgeiswyr Celf a Dylunio TAG a TGAU gael eu marcio ar sail y graddau y maent wedi bodloni pob un o’r Amcanion Asesu a nodir ym mhob cymhwyster. O ganlyniad, rydym yn argymell y dylid defnyddio Rhestr Wirio Disgybl-gyfeillgar a Chynlluniau Marcio CBAC wrth asesu gwaith yn fewnol.
Mae’r dogfennau hyn ar gael i’w llwytho i lawr yma ac o wefan CBAC. Gallant gynorthwyo’r broses asesu drwy’ch helpu i ddeall y meini prawf a pharu’r disgrifiadau yn y cynllun marcio â pherfformiad eich disgybl ym mhob AA. Unwaith y penderfynir ar y blwch neu’r band cywir yn y Cynllun Marcio gallwch benderfynu a yw’r sgôr yn uchel, yn ganolig neu’n isel o fewn y band hwnnw ac adio marc pob Amcan Asesu er mwyn cael marc cyfanswm. Mae’r fersiwn ‘Rhestr wirio Disgybl-gyfeillgar’ symlach o’r Amcanion Asesu hefyd yn gymorth wrth gyflawni Hunanasesu ac Asesu Cyfoedion Mewnol. Dywedodd athrawon fod y ddogfen hon yn arbennig o ddefnyddiol fel modd o annog ymgeiswyr i ddod yn gyfarwydd â’r meini prawf ar gyfer llwyddo, a’u defnyddio.
CBAC TGAU Cynlluniau Marcio
CBAC TGAU Rhestr Wirio Amcanion Asesu i Fyfyrwyr
CBAC TGAU Cynnwys a Awgrymir
CBAC UG/Safon Uwch Cynlluniau Marcio
UG/Safon Uwch Cynlluniau Marcio
CBAC UG/Safon Uwch Rhestr Wirio Amcanion Asesu
CBAC UG/Safon Uwch Cynnwys a Awgrymir
UG/Safon Uwch Cynnwys a Awgrymir