Rhwydwaith Ymchwil Lluniadu
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Lluniadu (The Drawing Research Network) i unrhyw un sy’n ymwneud mewn rhyw ffordd ag ymchwil lluniadu. Mae’n cynnwys artistiaid, dylunwyr, gwyddonwyr a pheirianwyr. Hefyd mae llawer yn athrawon, darlithwyr neu’n fyfyrwyr ymchwil. Mae’r wefan yn cyflwyno gwybodaeth am bobl sydd wedi bod â chysylltiad â’r Rhwydwaith; prosiectau dylunio diweddar; cyfeiriadau at sefydliadau sy’n ymwneud ag ymchwil lluniadu, a chysylltiadau â chyrff sy’n ymwneud â hyrwyddo lluniadu. Hefyd mae’n esbonio sut mae ymuno â rhestr drafod e-bost ymchwil lluniadu.