Gwobrau’r Celfyddydau
Nod Gwobrau’r Celfyddydau (Arts Awards) yw cefnogi unrhyw berson ifanc 11-25 oed i fwynhau’r celfyddydau ac i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth greadigol. Maen nhw’n cael eu cynnig ar lefelau 1, 2 a 3 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a gellir cyflawni Gwobrau’r Celfyddydau ar dair lefel: Efydd, Arian, Aur.