Beth yw’r diwydiannau creadigol?
Mae’r Llywodraeth yn eu disgrifio fel “y diwydiannau hynny sy’n deillio o greadigrwydd, sgiliau a dawn unigolion ac sydd â’r potensial i greu cyfoeth a swyddi trwy gynhyrchu a manteisio ar eiddo deallusol” ac maent yn cynnwys:
- Hysbysebu
- Pensaernïaeth
- Celf a hynafolion
- Crefftau
- Dylunio
- Dylunio ffasiwn
- Ffilm a fideo
- Meddalwedd hamdden ryngweithiol
- Cerddoriaeth
- Y celfyddydau perfformio
- Cyhoeddi
- Meddalwedd a gwasanaethau cyfrifiadurol
- Teledu a radio
Caiff eu heffaith economaidd ar ein cymdeithas ei mesur drwy’r pedair ffordd ganlynol:
- Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC)
- llforio gwasanaethau
- Cyflogaeth
- Nifer y busnesau
Ambell i ffaith a ffigur defnyddiol gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS)
Yn 2011 roedd 4.3% o ddiwydiant y DU yn y sector creadigol.
Roedd y diwydiannau creadigol yn gyfrifol am 10.6% o allforion y DU yn 2009.
Cyfrannodd y diwydiannau creadigol 2.9% o Werth Ychwanegol Crynswth y DU yn 2009 – £36.3 biliwn.
Cyflogir 1.5 miliwn o bobl yn y diwydiannau creadigol neu mewn swyddi creadigol mewn diwydiannau eraill, 5.1% o gyflogaeth y DU.
Roedd allforio gwasanaethau’r diwydiannau creadigol yn gyfrifol am 10.6% o allforion y DU.
Amcangyfrifwyd bod 106,700 o fusnesau ar y Gofrestr Ryngadrannol o Fusnesau yn 2011, sef 5.1% o’r holl gwmnïau ar y Gofrestr.
Rhai ffeithiau digidol gan Bima:
- – Mae cyflogaeth greadigol yn darparu rhyw ddwy filiwn o swyddi, yn y sector creadigol ei hun ac mewn swyddi creadigol mewn sectorau eraill. Mae cyflogaeth yn y sector wedi tyfu ddwywaith mor gyflym â’r economi’n gyffredinol.
- – Cyflogir 1.5 miliwn o bobl yn y diwydiannau creadigol neu mewn swyddi creadigol mewn diwydiannau eraill, 5.1% o gyflogaeth y DU.
- – Mae llawer o’r bobl fwyaf llwyddiannus yn y maes digidol o dan 30 oed – mae’n ddiwydiant sy’n cydnabod dawn.
- – Amcangyfrifir bod 107,000 o fusnesau’r DU yn y sector creadigol.
- – Mae disgwyl i draffig Rhyngrwyd y DU gynyddu 37 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2010 a 2015.
- – Gwerth ecosystem Rhyngrwyd y DU yw £82 miliwn y flwyddyn, gyda chysylltiadau symudol yn 16% o hyn; mae cyfraniad y sector symudol yn cynyddu’n gyflym wrth i fwy a mwy o bobl gael ffonau clyfar.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Diwydiannau Creadigol ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.