Canolbwynt ar Wneuthurwr
Mariko Kusumoto
Mae Mariko yn artist wneuthurwr o dras Japaneaidd sy’n creu darnau tri dimensiwn. Mae’r rhain yn cynnwys darnau wedi’u canfod, gwaith metel, ffabrig, edau a delweddau cynrychioliadol.Mae ei darnau tecstilau’n codi ymdeimlad o ryfeddod yn y gwyliwr ac maen nhw wedi datblygu drwy arbrofi dwys â phrosesau technegol heriol. Mae arfer creadigol Mariko yn adlewyrchu ei natur chwaraegar gyda nodweddion fel meddalwch, gwaed, breuder, gwrthgyferbyniad a thryloywder. Mae hi’n mynnu bod sgìl a chrefftwriaeth yn ei gwaith i gyd bob amser.
.