WJEC/CBAC yw enw masnachu WJEC CBAC Limited,cwmni a gyfyngir trwy warant, a reolir gan awdurdodau unedol Cymru. Mae’r Swyddfa Gofrestredig yn 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX. Cofrestrwyd y cwmni yng Nghymru a Lloegr Rhif 3150875.
Gellir ond defnyddio’r wefan hon yn ôl y Telerau ac Amodau canlynol:
- Mae’r ffaith eich bod chi’n defnyddio’r wefan yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau a’r Amodau hyn fel y maent ar ddyddiad eich ymweliad cyntaf â’r wefan.
- Cedwir yr hawl gan CBAC i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg trwy ddangos y newidiadau ar lein. Mae’r ffaith eich bod yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i’r newidiadau gael eu gwneud yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb diwygiedig.
- Nid yw CBAC yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau Rhyngrwyd allanol.
- Mae CBAC yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, ni all CBAC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb y cynnwys. Mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain.
- Mae CBAC yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam cynhyrchu. Doeth pob amser fodd bynnag yw i ddefnyddwyr redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd a lwythir i lawr o’r Rhyngrwyd. Tra bod hyn yn annhebygol iawn, ni all CBAC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd tra’n defnyddio deunydd o wefan CBAC.
- CBAC sydd â’r hawlfraint am yr holl ddeunydd ar y wefan hon. Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o’r wefan hon ar unrhyw ffurf, na thrwy unrhyw ddull, heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol CBAC.
- Ymdrinnir ag unrhyw ddata personol a gesglir trwy’r wefan hon yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998. Mae parhau i ddefnyddio’r wefan yn arwydd eich bod yn hapus i dderbyn cwcis CBAC.
- Rheolir y telerau ac amodau hyn a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau’n rhwym i awdurdod unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.