Yn y fideos hyn, mae Carla a Christian o Ysgol St Clare’s, Porthcawl, yn mynd â ni ar gyfres o deithiau ysbrydoledig drwy eu gwaith Dylunio Tecstilau. Mae’r gwaith a gyflwynodd y ddau fyfyriwr yn adlewyrchu’r safonau uchaf a’r lefelau mwyaf canmoladwy o ran ymgysylltu personol a dulliau arloesol. Bwriad y fideos hyn yw ysgogi syniadau creadigol ffres ymhlith athrawon a dysgwyr fel ei gilydd, a hefyd cynorthwyo sesiynau asesu cyfoedion/hunanasesu a gwerthuso’r myfyrwyr. Mae’r cynnwys yn berthnasol i’r manylebau CBAC ac Eduqas newydd.