Project byr yn defnyddio apps ffonau symudol oedd hwn, a ychwanegwyd at ddiwedd uned creu printiau. Bu’n rhaid i’r myfyrwyr archwilio gwrthrychau drwy ddefnyddio eu ffonau a nodweddion penodol apps (yn enwedig apps sydd ar gael am ddim). Er mai clicio botymau yn unig oedd angen ei wneud, roedd y project yn annog yr unigolion i edrych ar gyfansoddiad a lliw a phwyso a mesur penderfyniadau yn sgil hynny.