Anrhydedd – Prif Brojectau Terfynol Sylfaen o amrywiol o ddisgyblaethau gan gynnwys Delwedd Symudol, Cerameg, Tecstilau a Chelfyddyd Gain
Enghreifftiau o amrywiol ddisgyblaethau
Charlotte Slater – ‘Torri’r Gafael’
Roedd y fideo hwn yn elfen gosodiad a greais. Roedd y gosodiad yn cynnwys lle gwag tywyll gyda dau gynfas; roedd un yn fwy na’r llall ac nid oeddent yn gwynebu ei gilydd. Cawsant eu hongian wrth raffau metel a thafluniwyd y fideo arnynt.
Mae’r gwaith yn archwilio’r syniad o reolaeth a phŵer, ond ceisiais beidio â nodi’r maes rheoli yr oeddwn yn canolbwyntio arno gan nad ydwyf eisiau rheoli dehongliad y gwyliwr. Felly, ceisiais greu delweddau a sain y mae modd eu dehongli’n agored a’u gwneud yn awgrymog i’r sawl sy’n gwylio.
Lauren Heckler – ‘Trosglwyddo Egni’
Wrth i mi ymarfer, rwy’n cwestiynu fy nghanfyddiad i a chanfyddiadau pobl eraill yn ddi-baid er mwyn cynhyrchu syniadau a chreu gwaith.
Trwy’r darn fideo, fy mwriad oedd edrych ar y cyflwr dynol ac ehangu ar argraffiadau pobl o’r hyn sy’n ein cysylltu ni fel bodau dynol.
Wrth archwilio elfennau sy’n rhan annatod o ddyn, fel bioleg, technoleg, crefydd, dŵr a goleuni, tyfodd fy niddordeb yn y syniad o drosglwyddo egni rhwng pobl drwy roi, trosglwyddo a derbyn meddyliau, syniadau a gwybodaeth.
Rhian Whitty – ‘Ymchwilio i Batrwm Cylchol Llwch’
Fy mwriad oedd creu ffilm gan ymchwilio i bethau na ellir eu gweld go iawn, gan archwilio cylch bywyd a chysylltu hyn â’r syniad o lwch sêr. Mae’r gwaith hwn wedi’i hysbysu a’i ysbrydoli gan y ffaith fod atomau, yr hyn â’n gwnaeth, wedi’u creu gan genedlaethau blaenorol o sêr marw, drwy’r dull o farw ac aileni.
Charlotte Lewis ‘Tabŵ’
Drwy’r fideo, roeddwn eisiau cysylltu’r themâu o rwystrau, cyfrinachedd a thwyll er mwyn archwilio sut mae pobl y defnyddio eu hemosiynau fel rhwystr i greu twyll yn eu bywydau.
Mae hunan anafu yn rhwystr gan ei fod yn destun sy’n anodd ei drafod yn agored o fewn y gymdeithas sydd ohoni. Roeddwn eisiau i’r fideo fynd yn erbyn osgoi testunau anodd ac annog pobl i feddwl a deall sut mae’n teimlo i hunan anafu. Drwy archwilio a chyflwyno’r materion hyn, ceisiais gynhyrchu fideo a oedd yn dangos fy nehongliad o’r math o emosiynau y mae pobl sy’n hunan anafu yn eu profi.