Paula Windust – Gosodiad yn cynnwys nifer o ffotograffau wedi’u fframio, (3 ffrâm tua 100cm X 70cm, 3 ffrâm tua 60cm 40cm) a phlinth gyda llyfr printiedig a dwy fodel wedi’u gwisgo.
Project celfyddyd gain o’r enw ‘Gwaith y fenyw hon’ sy’n archwilio rôl menywod mewn cymdeithas. Mae’r fyfyrwraig wedi defnyddio delweddau o fenywod eiconig, hanesyddol a chyffredin mewn cyfres o bortreadau ffotograffig. Mae hi wedi cyfuno’r delweddau er mwyn dehongli ac archwilio’r gweddau amrywiol ac ystyried canfyddiadau’r gwyliwr o fenywod mewn cymdeithas. Drwy gasglu portreadau mewn llyfr mae hi hefyd yn dangos sut mae gwisg yn gallu dangos swyddogaethau drwy sgrin-brintio portreadau lluosog ar ddilladau unigol. Dyma broject heriol, myfyriol a thrawiadol sydd wedi cyrraedd lefel Rhagoriaeth y Cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.